Official UK procurement notice
Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron, Digwyddiad Ymgysylltu â Chyflenwyr
Authority: Cyngor Sir Ceredigion County Council (Local council)·Consortium: 2 public authorities
What is being bought
Published requirement descriptionGwahoddiad i ddigwyddiad ymgysylltu â chyflenwyr
CPV: Architectural, construction, engineering and inspection services · Construction work · Health and social work services · Housing services · Residential property services · Social work and related services
The lotProcurement structure
single lot · no lot value publishedLot #1Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dymuno rhoi hysbysiad ymlaen llaw am eu bwriad i…Planned
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dymuno rhoi hysbysiad ymlaen llaw am eu bwriad i gomisiynu cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Nhregaron. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei enwi’n Cylch Caron a gall gynnwys y cyfleusterau canlynol yn ychwanegol at y gydran Tai Gofal Ychwanegol; Gofal Cofrestredig; Nyrsio Cofrestredig; Gofal Canolradd; Llety yn cynnig seibiant; Cyfleusterau adsefydlu; Meddygfa Meddyg Teulu; Cyfleusterau iechyd; Cyfleusterau cymunedol; defnyddiau masnachol eraill.
Bwriad y prosiect Cylch Caron ar hyn o bryd yw gweithredu fel ail ddarparwr o safbwynt datblygiad gofal preswyl, gofal seibiant a gofal dydd cyfleusterau Gofal Cymdeithasol presennol Cyngor Sir Ceredigion yng Nghanolfan Adnoddau Bryntirion ac ar gyfer cyfleusterau iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Tregaron. Mae safle wedi’I glustnodi yn Nhregaron ar gyfer y prosiect a disgwylir i’r Cyngor Sir a’r Bwrdd Iechyd, fel rhan o’r broses o baratoi’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect, benderfynu ar y safle a ffefrir ar gyfer yr ail ddarpariaeth.
Y Weledigaeth
“Byddwn yn adeiladu ar sail y gwytnwch a’r ymrwymiad sydd ohoni eisoes o ran gofalu am bobl ym mro Cylch Caron, a byddwn yn creu model arloesol a gwledig o ofal cymunedol i ateb anghenion gofal, iechyd a thai yn yr ardal, sy’n addas ar gyfer heddiw ac yn gynaliadwy ar gyfer fory” Mae’n bosibl y bydd digon o dir ychwanegol ar gael i ymestyn y prosiect y tu hwnt i’r safle gwreiddiol sydd ei angen I gwrdd ag amcanion ail ddarparu. Gall hyn alluogi darparu tai ychwanegol, llety ar gyfer iechyd neu ofal os bydd y galw lleol yn cefnogi’r rhain.
Efallai y bydd angen i ddarparwyr ddylunio, datblygu, ariannu a gweithredu’r prosiect. Mae’n bosibl y gellir cyflwyno gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i’r prosiect fel parhad o’r trefniadau darparu uniongyrchol presennol sydd eisoes yn bodoli neu gallant gael eu hail-ffurfweddu unwaith y bydd safle terfynol y prosiect yn cael ei bennu.
[2] Datganiadau o ddiddordeb
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd ddarparwyr sydd â phrofiad a chymwysterau addas ac a hoffai gael eu hystyried ar gyfer cyflwyno prosiect Cylch Caron i digwyddiad ymgysylltu â Chyflenwyr ar dydd Mercher 17 Tachwedd 2021 am 15:00yp. Dylai darparwyr sydd â diddordeb gofrestru eu diddordeb drwy anfon e-bost at: nerys.lewis2@ceredigion.gov.uk erbyn 1700 o’r gloch 8fed o Tachwedd. Croesewir diddordeb o gonsortia neu bartneriaethau, ar yr amod y nodir yn glir unrhyw aelod arweiniol sydd â chyfrifoldeb am unrhyw dendr, ac unrhyw gontract dilynol. Dylai e-byst yn mynegi diddordeb nodi’n glir manylion cyswllt y sefydliad a’r prif gyswllt o fewn y sefydliad.
Dylai darparwyr nodi mai Ymarfer Asesu Marchnad yw hwn a’i fwriad yw darparu gwybodaeth i Achos Busnes Amlinellol y prosiect ac nad ydyw’n angenrheidiol y bydd caffael yn dilyn y broses hon. Os bydd unrhyw gaffael yn dilyn y broses hon, bydd y cyfle yn cael ei hysbysebu drwy sell2wales.gov.wales. Yn ogystal â chofrestru eu diddordeb fel y nodwyd uchod, cynghorir darparwyr sydd â diddordeb i gofrestru fel cyflenwr ar sell2wales.gov.wales. Dylai manylion cofrestru’r cyflenwr ar sell2wales.gov.wales gynnwys o leiaf un o’r codau categori a nodir yn yr hysbysiad hwn. Efallai y bydd gwerth y contract terfynol, y dull caffael a strwythur contract y prosiect hwn yn amrywio oherwydd canlyniadau’r Ymarfer Asesu Marchnad. Bydd unrhyw wariant, gwaith neu ymdrech a wneir gan sefydliadau cyn unrhyw gaffael dilynol yn fater o farn fasnachol iddynt hwy yn unig.
Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl o’r broses ar unrhyw adeg neu i beidio â thendro’r prosiect hwn neu i dendro ar sail wahanol.
Procedure terms & legal framework
From the official record · publisher note attached- Legal basis
- CELEX · 32014L0024 Public Contracts Regulations 2015 (Directive 2014/24/EU)
- Procurement category
- Works
- Notice status
- Past planning notice
- Procurement threshold
- Unspecified in notice
- Regulatory regime
- Standard
- Commercial structure
- Stand-alone contract (no framework)
- Competition type
- Competitive procedure
- GPA / WTO covered
- Yes (GPA)
- Recurring procurement
- Unspecified in notice
- First published
- 29 Oct 2021, 09:15 BST
- Last source update
- 29 Oct 2021, 09:15 BST
- Authority reference
itt_90143- FTS notice number
2021/S 000-027147- Classification (CPV)
- Delivery area
- Official registry OCID
ocds-h6vhtk-02f179Find a Tender
Publisher note: (WA Ref:115052)
How it was run
Official noticeTender documents are also served through a separate tool: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/web/login.shtml ↗
- Submission deadline
- —
Timeline
29 Oct 2021 → 3 Jan 2022 · 2 dates- Notice published29 Oct 2021, 09:15 BST
- Tender notice expected3 Jan 2022
Commercial outcome & contract awards
Pipeline notice- Awards (0)
- No award published
- Contracts (0)
- No contract published
- Bid statistics
- No aggregate bid statistics published
Contracting authority & participating public bodies
2 public bodies on the noticeConsortium members and other public bodies
- Hywel Dda University Health BoardContracting authority
Official documents & specifications
Official links; attachments are not copiedNo document links were published on the notice.